Mae tîm pêl-droed Y Seintiau Newydd yn wynebu her enfawr yn erbyn FC Copenhagen yn gemau rhagbrofol Cynghrair Ewrop heno (dydd Llun, Gorffennaf 22).

Fe lwyddodd y clwb o Park Hall i gyrraedd ail rownd y gemau rhagbrofol ar ôl ennill 3-2 yn erbyn Feronikelim o Kosovo, dros ddwy gêm.

Mae chwaraewyr y rheolwr Scott Ruscoe yn chwarae gartref yng Nghroesoswallt yn y gêm gyntaf yn erbyn tîm cryf FC Copenhagen, sy’n adnabyddus yn Ewrop.

Y clwb o brifddinas Denmarc oedd enillwyr y Superliga, prif gynghrair y wlad, ar ddiwedd tymor 2018-19 ar ôl gorffen 11 pwynt yn glir o Midtjylland yn yr ail safle – y tîm wnaeth drechu’r Seintiau Newydd yn Ewrop y llynedd.

“Bydd hi’n noson Ewropeaidd wych, nid yn unig i’r chwaraewyr ond i’r clwb a’r bobol sy’n rhedeg y clwb pêl-droed,” meddai Scott Ruscoe.

“Mae’n brawf, ond pe baech chi’n gofyn i’r chwaraewyr a fyddai’n well gennych chi fod yn chwarae Copenhagen neu’n mynd i Slovan Bratislava, lle rydym wedi bod o’r blaen, rwy’n siŵr fy mod i’n gwybod beth fyddai’r ateb.”

“Mae eu tîm yn llawn cystadleuwyr rhyngwladol, sy’n bêl-droedwyr hynod gymwys. Maent wedi’u hyfforddi yn dda ac mae pawb yn gwybod eu rôl,” meddai Scott Ruscoe.