Mae tîm pêl-droed Bangor 1876 wedi cael cweir o 12-1 yn eu gêm gyntaf erioed, oddi cartref yn erbyn FC United of Manchester gerbron 800 o gefnogwyr.

Ddwy funud yn unig gymerodd hi i’r Saeson sgorio, wrth i Louis Myers rwydo oddi ar groesiad gan Regan Linney, oedd wedi rhedeg i lawr yr asgell.

Naw munud yn ddiweddarach, dyblodd y Saeson y tîm cartref eu mantais pan sgoriodd Charlie Ennis o ymyl y cwrt cosbi ar ddiwedd gwrthymosodiad.

Sgoriodd Charlie Ennis eto 22 o funudau’n ddiweddarach gyda foli ar y postyn pellaf, gan gwblhau ei hatric funud yn ddiweddarach i’w gwneud hi’n 4-0.

Daeth eu pumed ar ôl 38 munud, pan sgoriodd Mike Donohue, a’r chweched ar ôl 41 munud wrth i Curtis Jones rwydo.

Roedd amser am seithfed cyn yr egwyl, wrth i Luke Griffiths ergydio’n isel i’r rhwyd.

Hanner amser – FC United of Manchester 7 Bangor 1876 0

Daeth dau eilydd i’r cae i’r Cymry ar ddechrau’r ail hanner, ond chawson nhw fawr o ddylanwad yn syth, wrth i’r Saeson sgorio wythfed gôl, gyda Rhain Hellawell yn rhedeg i lawr yr asgell cyn bwydo’r bêl i Nialle Rodney ar ôl 47 munud.

Cafodd y Cymry seibiant o 19 munud cyn y gôl nesaf, wrth i Chris Sharp benio’r bêl i’r rhwyd oddi ar groesiad Rhain Hellawell i’w gwneud hi’n 9-0.

Dair munud yn ddiweddarach, daeth y degfed gôl gan Chris Almond yn ei gêm gyntaf ers gwella o anaf.

Daeth yr unfed gôl ar ddeg saith munud cyn y diwedd, wrth i Tom Dean rwydo, ac roedd hi’n 12-0 cyn i dîm Bangor 1876 sgorio gôl gysur drwy’r eilydd Benn Lundstrum