Mae Clwb Pêl-droed Bangor 1876 yn chwarae eu gêm gyntaf erioed heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 20) yn erbyn FC United of Manchester, clwb arall a gafodd ei ffurfio gan gefnogwyr anfodlon.

Penderfynodd cefnogwyr Bangor ffurfio’r clwb ym mis Mai ar ôl i Glwb Pêl-droed Bangor wynebu gorchymyn i’w ddirwyn i ben a gollwng o’r Uwch Gynghrair yn dilyn trafferthion ariannol difrifol.

Ar yr adeg waethaf, fe fu’n rhaid i’r clwb ofyn i’r cefnogwyr dalu eu biliau trydan a dŵr ar ôl i gyflenwadau’r clwb gael eu diffodd.

Fis diwethaf, fe fu’r clwb yn yr Uchel Lys tros fil trethi oedd heb ei dalu, ac mae’n apelio ar hyn o bryd yn erbyn colli 42 o bwyntiau y tymor diwethaf ar ôl torri rheolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Gallai’r clwb orfod gostwng i’r Drydedd Adran o ganlyniad.

Pennod newydd

Yn debyg i FC United of Manchester, a gafodd ei sefydlu gan gefnogwyr anfodlon Manchester United, mae Clwb Pêl-droed Bangor 1876 wedi’i sefydlu fel menter gymunedol.

Ond mae’r clwb yn pwysleisio nad ydyn nhw’n troi eu cefn yn llwyr ar Glwb Pêl-droed Bangor, ac mae bathodyn y clwb newydd yn cynnwys y bathodyn gwreiddiol.

Bydd y clwb newydd yn chwarae yng Nghynghrair Gwynedd y tymor hwn, sef pumed haen y Gynghrair Bêl-droed, a bydd eu gemau cartref yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Bangor.