Mae teulu Justin Edinburgh, cyn-reolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth yn dilyn ei farwolaeth fis diwethaf.

Fe fu farw rheolwr Leyton Orient yn 49 oed ar Fehefin 8, ac fe gafodd ei wasanaeth coffa ei gynnal yn Chelmsford ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 16).

Roedd yn rheolwr ar Gasnewydd rhwng 2011 a 2015.

Ymhlith y rhai oedd yn y gwasanaeth roedd Glenn Hoddle, Teddy Sheringham a Sol Campbell, tri o’i gyd-chwaraewyr yn Spurs, ac roedd cyfle i rai cefnogwyr fynd i mewn i’r eglwys gadeiriol i dalu teyrnged iddo.

Dathlu bywyd

“Roedd y dathliad hwn o fywyd Justin yn union fel y byddai wedi’i hoffi, wedi ein hamgylchynu gan gannoedd o’i deulu, ffrindiau, cydweithwyr, cyn-gydweithwyr a chefnogwyr,” meddai ei deulu mewn datganiad drwy law Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair.

“Fel teulu, ac ar ran Justin, hoffem fynegi ein diolchgarwch diffuant i’r sawl sydd wedi ein cefnogi ni yn ystod wythnosau mwyaf anodd ein bywydau.

“Ac i’r holl deulu a ffrindiau sydd wedi dod atom a’n helpu yn ystod cyfnod eithriadol o drist ac anodd i ni oll.

“Rydym wedi gwerthfawrogi pob ewyllys da, pob teyrnged a phawb oedd wedi cyffwrdd Justin yn ystod ei fywyd anhygoel.

“Gobeithio y bydd ei waddol yn parhau drwy atgofion melys pawb oedd yn ei adnabod, ac y bydd Justin yn parhau i gael effaith bositif ar fywydau pobol drwy Sefydliad Justin Edinburgh 3 – menter elusennol a gafodd ei sefydlu er cof amdano.”

Teyrnged gan ei fab

Wrth dalu teyrnged i’w dad, dywedodd Charlie Edinburgh ei fod e wedi dysgu mwy am ei dad yn sgil y gwasanaeth coffa.

“Roedd e’n ddyn a chanddo fe gymaint o amser ac angerdd i’w rhoi i bobol.

“Iddo fe a’r math o berson oedd e mae’r diolch am y gefnogaeth anhygoel a welsom – roedd e’n ddyn o’r radd flaenaf.”