Mae’n “debygol” y bydd chwaraewr pêl-droed Cymru, Ethan Ampadu, yn gadael ei glwb Chelsea ar fenthyg y tymor yma, yn ôl y rheolwr, Frank Lampard.

Tydi’r amddiffynnwr talentog, sydd hefyd yn chwarae yng nghanol y cae, heb ymuno a’r clwb ar eu taith yn Siapan eto oherwydd ei fod yn debygol y bydd yn gadael am dymor.

Mae Aston Villa wedi dangos diddordeb yn Ethan Ampadu, sydd a pum cap I Gymru ac sydd 12 i dîm cyntaf Chelsea.

Fe ymddangosodd i’r clwb o Lundain am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2017 ac fe chwaraeodd bum gwaith o dan y rheolwr Maurizio Sarri y tymor diwethaf.

Fe ddechreuodd ei yrfa gyda Exeter City yn Ail Gynghrair Lloegr, gan chwarae ei gem broffesiynol yn 15 oed, cyn symud i Chelsea yn 2017.

Fe arwyddodd cytundeb pum mlynedd newydd gyda’r clwb o Stamford Bridge ym mis Medi 2018.