Justin Edinburgh (o wefan Casnewydd)
Fleetwood 1 Casnewydd 4

Fe gafodd Casnewydd eu buddugoliaeth gynta’ ers dechrau’r tymor wrth chwalu un o dimau gorau’r Uwch Gynghrair Blue Square.

Er eu bod wedi ildio gôl ym munud gynta’r gêm yn erbyn Fleetwood, roedden nhw ar y blaen o 4-1 ar ôl awr.

Ac fe gafodd Sam Foley hatric wrth i Fleetwood eu hunain gyfadde’u bod wedi colli i dîm gwell.

Y goliau

Fe ddaeth gôl gynta’ Foley ar ôl chwarter awr cyn i Danny Rose ychwanegu un arall o’r smotyn ar ôl 23 munud.

O fewn chwech munud arall, roedd Casnewydd ddwy ar y blaen ac fe ddaeth yr ola’ union hanner awr wedyn.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Fleetwood, sy’n cystadlu am ddyrchafiad o’r Uwch Gynghrair, pan gafodd eu sgoriwr Gareth Seddon ei anfon o’r cae am ail drosedd carden felen.

Edinburgh yn falch

Ar y diwedd, roedd Justin Edinburgh, rheolwr newydd y tîm o Went, yn falch fod y chwaraewyr wedi rhoi perfformiad i godi calonnau’r cefnogwyr.

Nid ar ddamwain yr oedd Fleetwodd yn un o arweinwyr y gynghrair, meddai.

Mae Casnewydd bellach wedi codi un safle ond yn dal i fod yn drydydd o’r gwaelod, yn y safleoedd disgyn.