Mae’r Cymro ifanc Daniel James yn dweud ei fod e am geisio “efelychu” Ryan Giggs yng nghrysau Manchester United a Chymru.

Lai na 18 mis ers iddo wisgo crys Abertawe am y tro cyntaf, mae’r chwaraewr 21 oed wedi symud i Old Trafford ac yn chwarae ar y lefel ryngwladol.

Ac mae’n dweud bod cefnogaeth rheolwr y tîm cenedlaethol yn ei helpu i ddatblygu fel chwaraewr.

“Yn syth ar ôl i fi ddod i mewn i amgylchfyd Cymru, roedd gan Giggsy uchelgais ar fy nghyfer i,” meddai.

“Mae’r ffordd mae e wedi dod â fi a llawer o’r bois ifainc eraill drwodd yn anhygoel.

“Wnaeth e siarad â fi pan arwyddais i gyda United am y tro cyntaf. Ei gyngor i fi oedd i fod yn fi fy hun, a dyna fydda i’n ceisio’i wneud.

“Doedd e ddim yn chwaraewr ffôl, nag oedd? Roedd yr hyn wnaeth e gyda Manchester United yn anhygoel.

“Mae pob asgellwr ifanc yn edrych i fyny i berson fel fe.

“Mae’n anhygoel i fi, wrth fynd i ffwrdd ar gyfer gemau rhyngwladol, i gael dysgu gan bobol fel fe, ac mae e’n amlwg yn rhywun dw i’n ceisio’i efelychu.”

Perfformiadau hyd yn hyn

Mae Daniel James eisoes yn creu argraff, wrth i’w dîm newydd baratoi yn Awstralia ar gyfer y tymor newydd.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y crys coch mewn buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Perth Glory, gan serennu yn ystod y gêm gerbron 50,206 o bobol.

Ac mae e’n creu argraff oddi ar y cae hefyd, ar ôl i filoedd o gefnogwyr gael ei lofnod wrth i’r chwaraewyr gyfarfod â’r cefnogwyr.