Mae penodi’r pennaeth recriwtio cywir yn “hanfodol” i Glwb Pêl-droed Abertawe, yn ôl eu cadeirydd Trevor Birch.

Mae’r Elyrch yn ceisio addasu i fywyd o dan Steve Cooper, y rheolwr newydd, ar ôl i Graham Potter adael am Brighton ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Roedd ei ymadawiad hefyd yn golygu bod yr Elyrch wedi colli Kyle Macaulay, oedd yn gyfrifol am adnabod a recriwtio chwaraewyr newydd.

Dadansoddwr recriwtio oedd e, ond mae’r clwb bellach yn gobeithio penodi pennaeth recriwtio, a fyddai’n gwbl gyfrifol am drosglwyddiadau.

‘Y penodiad cywir’

“Y darn hanfodol nesaf wrth ail-strwythuro’r clwb fydd ychwanegu pennaeth recriwtio,” meddai Trevor Birch mewn neges i’r cefnogwyr ar wefan y clwb.

“Tra ei fod yn rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno ers sbel, dw i’n teimlo ein bod ni’n dod yn agos, ac fe ddylai fod yna restr fer yn ei lle yn fuan iawn.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud y penodiad cywir er lles tymor hir y clwb, felly dydy e ddim yn rhywbeth y byddwn ni’n rhuthro yn ei gylch e.

“Os oes angen i ni aros ychydig yn hirach nag yr oedden ni’n anelu ato, dyna ni.”