Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu ail-frandio haenau uchaf y gamp yng Nghymru.

Yn ystod tymor newydd 2019/2020, bydd y gymdeithas yn gyfrifol am yr haen gyntaf ac, am y tro cyntaf erioed, yr ail haen.

Mewn datganiad, dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod newidiadau i’r haenau yn cynnwys ailenwi Uwch Gynghrair Cymru JD a rhai o gynghreiriau’r ail haen, yn ogystal â chyflwyno logo newydd ar gyfer y dair adran.

Maen nhw hefyd yn gobeithio datblygu gwefan a fydd yn uno cynghreiriau’r haen gyntaf a’r ail, gan ddisodli hen wefan Uwch Gynghrair Cymru JD.

“Bydd yr enwau, y logo a noddwyr cynghreiriau’r ail haen yn cael eu datgelu cyn bo hir cyn cychwyn y tymor newydd,” meddai’r datganiad wedyn.

“… mae’r newidiadau hyn yn dynodi cyfnod cyffrous i bêl-droed yng Nghymru.”