Matty Williams - dal i sgorio

Pwy sydd yn nhîm yr wythnos criw Sgorio’r wythnos hon?

Golwr

Ashley Morris (Llanelli) – cadwodd Llanelli eu trydedd llechen lân yn olynol tra’n curo Aberystwyth 2-0 ar Barc Steboneath ac roedd Morris rhwng y pyst ar gyfer bob un o’r tair gêm. Er gorffen y gêm gyda deg dyn, doedd y canlyniad ddim yn y fantol o gwbl, gyda Morris yn gadarn yn y gôl.

Amddiffynwyr

Chris Thomas (Llanelli) – un o’r chwaraewyr mwyaf cyson yn Uwch Gynghrair Cymru dros y ddau dymor diwethaf i Lanelli. Fe serennodd Thomas yn ymosodol gan greu problemau lawr asgell chwith Aberystwyth ond chwaraeodd ei ran ym mherfformiad amddiffynnol Llanelli hefyd.

Kai Edwards (Castell-nedd) – seren y gêm ar y Gnoll yn erbyn ei gyn-glwb, Prestatyn, wrth i Gastell-nedd ennill am y pumed gêm yn olynol. Mae Edwards yn ffynnu ar ei gyfrifoldeb fel amddiffynnwr canol i dîm Terry Boyle y tymor hwn.

Lee Surman (Llanelli) – chwaraeodd Wyn Thomas yng nghrys rhif 6 Llanelli am bum tymor llwyddiannus cyn gadael dros yr haf i ailymuno ag Aberystwyth. Gydag Aber ond oddi ar waelod y tabl ar wahaniaeth goliau, mae Llanelli dri phwynt oddi ar y brig a Surman yw’r arwr newydd yn y crys rhif 6 yng nghanol yr amddiffyn.

Jack Lewis (Castell-nedd) – roedd Lewis yn rhan o’r tîm enillodd ddyrchafiad o’r Gynghrair Undebol i’r Uwch Gynghrair gyda Phrestatyn a dim ond tair gêm y collodd yn ystod tri thymor cyntaf clwb yr arfordir yn y gynghrair. Dros yr haf, daeth yr alwad i fynd yn chwaraewr proffesiynol gyda Chastell-nedd ac fe brofodd Lewis ei fod yn barod i gymryd y cam nesaf ymlaen gyda pherfformiad campus yn cynnwys sgorio’i gôl gyntaf i’w glwb newydd yn erbyn ei gyn-glwb.

Canol cae

Mark Connolly (Y Bala) – mae hi wedi bod yn wythnos dda i Mark Connolly. Enillodd wobr Seren y Gêm brynhawn Sadwrn yn ôl Malcolm Allen yn fyw ar Sgorio yn Lido Afan, ar ôl sgorio gôl fuddugol wych o gic rydd. Yna, enillodd wobr Gôl y Mis yn ôl Malcolm a John Hartson ar raglen Sgorio nos Lun – ei gôl o’r llinell hanner yn ennill y wobr ar gyfer mis Medi yn gwbl haeddiannol.

Chris Seargeant (Y Seintiau Newydd) – un arall oedd ar restr Gôl y Mis ar gyfer mis Medi oedd Seargeant ac mae’n siŵr bydd ei enwi ar restr mis Hydref hefyd yn dilyn ei chip taclus dros Mike Lewis i sgorio pedwaredd gôl y Seintiau Newydd yn erbyn Caerfyrddin dros y penwythnos. Nid dim ond goliau yw cryfder Seargeant – mae ei basio metronomaidd yng nghanol cae yn allweddol i steil ceffylau blaen yr Uwch Gynghrair.

Mark Smyth (Bangor) – er bod Smyth yn ei drydydd cyfnod gyda Bangor ac wedi chwarae dros 50 o gemau i’r clwb yn Uwch Gynghrair Cymru, teg dweud nad yw cyn-asgellwr Lerpwl wedi llwyr argyhoeddi. Ond dros y tair wythnos diwethaf, mae Smyth wedi blodeuo – dechrau’r tair gêm diwethaf a sgorio ym mhob un o’r tair. Creodd bob mathau o broblemau i Bort Talbot gyda’i sgiliau a’i giciau gosod.

Ymosodwyr

Ian Sheridan (Airbus UK) – ydi, mae’n ail wythnos mis Hydref ond ydyn, dim ond newydd ennill eu gêm gyntaf y tymor hwn mae Airbus. Ar ôl 9 gêm heb ennill, fe ddaeth y fuddugoliaeth o’r diwedd i dîm Craig Harrison yn erbyn y Drenewydd, ond bu bron i’w dîm daflu’r tri phwynt o’r neilltu wrth ildio dwy gôl o fantais. Ond yn ddwfn yn y deg munud olaf, fe sgoriodd Sheridan y gôl allweddol, nid y gôl orau y bydd yn ei sgorio’r tymor hwn ond efallai y pwysicaf.

Craig Moses (Llanelli) – tra bod Rhys Griffiths yn hawlio’r penawdau gan sgorio am y chweched gêm yn olynol, mae Moses wedi bod yn gwneud ei waith yn dawel. Creu’r gôl gyntaf i Griffiths a sgorio’r ail i Lanelli dros y penwythnos – arf defnyddiol iawn yn nhriawd ymosodol Andy Legg.

Matty Williams (Y Seintiau Newydd) – mae’n bosib mai Matty Williams yw’r unig chwaraewr all stopio Rhys Griffiths rhag ennill gwobr y prif sgoriwr am y seithfed tymor anochel yn olynol. Mae gan Griffiths 12 gôl mewn 8 gêm, tra bod gan Williams 7 gôl mewn 9 ymddangosiad yn dilyn dwy safonol yn erbyn Caerfyrddin dros y Sul.

Bydd modd i chi wylio’r perfformiadau uchod yng nghlipiau uchafbwyntiau Sgorio fydd yn ymddangos yma nes mlaen yn yr wythnos.