Justin Tipuric
Mae blaenasgellwr a chapten dros-dro y Gweilch, Justin  Tipuric, wedi cael ei enwi yn dilyn tacl beryglus ym muddugoliaeth y Gweilch ym Munster ddydd Sul.

Mae’n un o ddau chwaraewr i gael eu henwi am droseddau yn ystod y gêm, gyda phrop Munster BJ Botha hefyd mewn dyfroedd dyfnion am daro gwrthwynebydd gyda’i ben.

Cafodd Tipuric ei yrru i’r gell callio yn ystod y gêm o ganlyniad i’r drosedd yn erbyn maswr Munster, Ian Keatley, cyn arwain ei dîm i fuddugoliaeth gofiadwy o 17-13.

Bydd y ddau yn mynd o flaen eu gwell ym Mhanel Disgyblu Cynghrair RaboDirect PRO12, ond does dim dyddiad ar gyfer cyfarfod y Panel hwnnw eto.

Mae’r rhanbarth wedi dewis peidio trafod y mater ymhellach ar hyn o bryd.