Fe fydd y Barri yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf ers 2003 heno wrth iddyn nhw herio Cliftonville yn rownd cyn-ragbrofol Cynghrair Ewropa yn Stadiwm Leckwith yng Nghaerdydd.

Aeth 16 blynedd heibio ers i’r Barri gyrraedd cystadleuaeth Ewropeaidd ac mae eu rheolwr wrth ei fodd.

“Mae’n ffantastig sicrhau lle yn Ewrop, ond mae’n rhaid i ni wneud hyn yn gyson,” meddai Gavin Chesterfield.

“Mae’n rhaid i ni gadw fynd, a sicrhau na dim rhywbeth un tymor yw hyn. Mae chwarae pêl-droed yn Ewrop yn rhywbeth mae’n rhaid i ni wneud bob tymor.”

Yn hanesyddol tydi chwarae yn Ewrop ddim yn rhywbeth dieithr i’r clwb.

Mae’r Barri wedi chwarae 24 gêm gystadleuol yn Ewrop yng nghystadlaethau Cynghrair Ewrop UEFA, Cwpan UEFA a’r Cup Winners Cup.

O’r rhain maen nhw wedi bod yn fuddugol mewn tair yn erbyn clybiau o Latfia, Hwngari ag Azerbaijan ble llwyddodd y clwb fynd drwodd i’r rownd nesaf.

Fe enillodd y Barri gêm o 3-1 yn erbyn FC Porto yn 2001 yn eu hen stadiwm, Jenner Park, hefyd, ar ôl colli 8-0 ym mhrifddinas Portiwgal yn y gêm gyntaf.

Mae’r gêm honno yn parhau i fod yn fyw ym meddyliau cefnogwyr y Barri a dilynwyr pêl-droed Cymru.

“Datblygu’n gynt”

Doedd rheolwr y Barri ddim wedi rhagweld y gallai’r clwb ddychwelyd i Ewrop mor sydyn.

“Mae’n gynnar yn natblygiad y tîm, ac mae hyn wedi dod yn gynt  nag oeddem ni wedi rhagweld,” meddai Gavin Chesterfield.

“Mae’n beth da bod y clwb wedi datblygu’n gynt nag oedden ni di feddwl, ond mi ydyn ni’n llawn ymwybodol o ba mor anodd fydd y gemau yma.”

Mae’r ornest heno yn gêm fawr i ymosodwr y Barri, Kayne McLaggon – llanc o’r dref sy’n chwarae am y tro cyntaf yn Ewrop.

“Mae’r clwb yma, a’r gemau Ewropeaidd mae’r clwb di bod yn rhan ohonynt, yn rhan fawr ohono i. Roeddwn i’n gallu gweld Parc Jenner o fy nhŷ – felly mae’r gemau yma’n golygu lot fawr i mi,” meddai Kayne McLaggon

Bydd y gic gyntaf am 6.30 heno gyda’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C Clic a thudalen Facebook Sgorio.