Dinas Bangor 3 – 1 Tref Port Talbot

Doedd Port Talbot heb ennill yn Ffordd Farrar ers 2004 a wnaeth hynny ddim newid ddydd Sadwrn.

Aeth y gogleddwyr ar y blaen wedi 13 munud diolch i gôl Craig Garside yn dilyn camgymeriad yn amddiffyn Port Talbot. Roedd hi’n 2-0 yn fuan yn yr ail hanner wedi ergyd Mark Smyth o bellter ar ôl 51 munud.

Gyda phethau’n edrych yn gyfforddus i Fangor achosodd Port Talbot ddiweddglo nerfus i’r tîm cartref trwy sgorio ar yr awr i’w gwneud hi’n 2-1, Cortez Bell gyda’r gôl. Pwysodd Port Talbot wedyn er mwyn ceisio ennill pwynt ond methu cyfleoedd oedd eu hanes, gyda Dylan Blair yn euog o fethu un cyfle hawdd.

Wrth i’r ymwelwyr bwyso manteisiodd Bangor a Les Davies i sicrhau’r fuddugoliaeth ym munud olaf y gêm. 3-1 y sgôr terfynol felly a Bangor yn ennill eu pedwaredd gêm o’r bron ac yn aros yn bedwerydd yn y tabl, Port Talbot ar y llaw arall yn colli eu pedwaredd gêm o’r bron ond yn aros yn seithfed.

Llanelli 2 – 0 Aberystwyth

Methodd Aberystwyth adfer yn dilyn gôl gynnar i Lanelli yn y gêm hon yn Stebonheath ddydd Sadwrn.

Rhoddodd Rhys Griffiths Llanelli ar y blaen wedi 20 eiliad yn unig o chwarae gyda’i ddeuddegfed gôl o’r tymor. Ond nid Griffiths yw’r unig flaenwr sydd yn sgorio i Lanelli’r dyddiau yma, sgoriodd Craig Moses ei seithfed gôl mewn wyth gêm wedi 52 munud er mwyn ymestyn mantais y cochion.

Doedd hi ddim yn fêl i gyd i Lanelli gan iddynt orffen y gêm gyda 10 dyn, yr eilydd, Chris Holloway yn derbyn cerdyn coch am dacl ar Sean Thornton. Ond llwyddodd deg dyn Llanelli i gynnal eu goruchafiaeth wrth i’r gêm orffen yn 2-0.

Mae Llanelli yn aros yn drydydd o’r brig tra bod Aberystwyth yn aros yn drydydd o’r gwaelod.

Y Seintiau Newydd 4 – 0 Caerfyrddin

Buddugoliaeth gyfforddus oedd hon i’r Seintiau Newydd wrth i drafferthion tîm Tomi Morgan barhau.

Matty Williams sgoriodd y gyntaf i’r tîm cartref wedi 8 munud yn unig. Roedd hi’n ddwy eiliadau cyn yr egwyl, Greg Draper yn rhwydo.

Ychwanegodd Y Seintiau ddwy arall yn yr ail hanner, ail i Matty Williams wedi 55 munud ac yna Chris Seargeant yn coroni’r cyfan 20 munud cyn y chwiban olaf.

Wythfed fuddugoliaeth Y Seintiau Newydd o’r bron yn ddigon i’w cadw ar frig y gynghrair ond dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn cadw Caerfyrddin uwchben y Drenewydd ar waelod y tabl.

Lido Afan 0 – 1 Y Bala

Roedd cic rydd wych Mark Connolly yn fuan yn yr ail hanner yn ddigon i ennill gêm wael yn Stadiwm Marston’s.

Mae adroddiad llawn o’r gêm fan hyn.

Airbus 3 – 2 Y Drenewydd

Y frwydr hon yn Airbus brynhawn Sul oedd gêm y penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru heb os.

Roedd hi’n edrych fel ei bod hi am fod yn fuddugoliaeth gyfforddus i’r tîm cartref ar hanner amser diolch i goliau Ryan Edwards wedi hanner awr ac Ian Sheridan bum munud cyn yr egwyl.

Ond brwydrodd y Drenewydd yn ôl yn ddewr yn yr ail hanner gan sgorio dwy gôl mewn 5 munud hanner ffordd trwy’r ail hanner, Nick Rushton yn rhwydo wedi 66 munud a Jamie Price yn unioni’r sgôr wedi 71 munud.

Ond yn dilyn eu gwaith caled i ddod yn ôl i’r gêm collodd y Drenewydd eu gafael ar eu pwynt gyda saith munud yn weddill, ail gôl Ian Sheridan o’r gêm yn cipio’r tri phwynt i Airbus.

Airbus oedd yr unig dîm o’r hanner gwaelod i ennill dros y penwythnos felly roedd y tri phwynt yn ddigon i’w codi tri lle i’r wythfed safle yn y tabl. Parhau ar y gwaelod y mae’r Drenewydd ar ôl methu dal eu gafael ar bwynt a fyddai wedi bod yn ddigon i’w codi oddi yno.

Castell Nedd 3 – 1 Prestatyn

Cwblhaodd Castell Nedd benwythnos perffaith i’r pump uchaf gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Prestatyn ar y Gnoll brynhawn Sul.

Di sgôr oedd hi ar yr egwyl ond sgoriodd Castell Nedd ddwywaith yn nhair munud gyntaf yr ail hanner.  Aethant ar y blaen wedi 47 munud diolch i gic o’r smotyn Chris Jones yn dilyn trosedd Paul O’Neill ar Luke Bowen, cyn i Bowen ei hun ychwanegu’r ail funud yn ddiweddarach.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r ymwelwyr  wedi 79 munud wrth i Ross Stephens dynnu un yn ôl i Brestatyn, ond pharodd y llygedyn hwnnw ddim yn hir gan i Jack Lewis rwydo trydedd Castell Nedd funud yn ddiweddarach.

Mae’r tri phwynt yn cadw Castell Nedd ar warthau’r Seintiau Newydd yn yr ail safle ond y mae Prestatyn yn aros yn hanner uchaf y tabl hefyd, yn y chweched safle.