Mae chwaraewyr ifainc o Gymru’n rhan bwysig o athroniaeth a gweledigaeth Steve Cooper, rheolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe.

Fe fu’r gŵr 39 oed, sy’n enedigol o Bontypridd, yn cyfarfod â’r wasg yn Stadiwm Liberty am y tro cyntaf brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 18).

“Mae gan bobol fel Connor Roberts a Joe Rodon dymor y tu ôl iddyn nhw nawr, ac fe allan nhw godi i’r lefel nesaf eto wrth chwarae â brwdfrydedd ieuenctid a’r awch i lwyddo,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n adeiladu’r diwylliant cywir ac yn chwarae ag arddull addas o gwmpas hynny, gyda chwaraewyr ifainc sy’n awyddus i wneud i bethau digwydd a bod yn ddewr ar y bêl.

“Fy ngwaith i yw troi hynny’n dactegol dda, sicrhau bod y tactegau cywir yn eu lle a gwneud i’r chwaraewyr gredu y gallan nhw wneud hyn.

“Dw i wedi gwneud tipyn o waith yn ceisio deall beth sy’n digwydd ym mhennau’r chwaraewyr iau hyn.

“Mae angen ychydig o hunan-gred ac ysgogiad ar bawb, a dyna’n sicr sut dw i eisiau arwain, a dw i’n credu, os gallwch chi wneud hynny, y bydd y chwaraewyr yn mynd â nhw eu hunain i rywle dydyn ni ddim wedi bod o’r blaen, yn emosiynol ac yn gorfforol.

“Pan ydych chi’n gwneud hynny ac yn croesi’r llinell, boed wrth ennill gemau neu gyrraedd rhan arbennig o’r gynghrair, does dim teimlad gwell i’w gael oherwydd mae’n dod o’r tu fewn, ac mae’n rhywbeth dw i eisiau canolbwyntio arno.”

Cymry allweddol

Er i’r Elyrch golli Daniel James i Manchester United, fe fydd chwaraewyr fel Connor Roberts a Joe Rodon yn allweddol i’w llwyddiant y tymor nesaf, wrth iddyn nhw geisio dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr.

“Rhaid i chi adeiladu ar hynny neu fanteisio arno,” meddai.

“Dw i’n credu bod hwn yn glwb pêl-droed all gael effaith dda iawn ar y gymuned.

“Dw i’n ymwybodol iawn o hynny ac am i’r cefnogwyr ddod yma a bod yn falch o’r hyn maen nhw’n ei weld, sef bod ar y bêl a chwarae’n greadigol, gweithio fel tîm a gweithio’n galed hebddi. Mae hynny mor bwysig.

“Mae bod â’r fethodoleg gywir gyda’r bêl a hebddi yn bwysig.

“Rydyn ni am fod yn awchu i’w chael hi’n ôl cyn gynted ag y byddwn ni’n ei cholli.

“Dw i eisiau bod pobol yn cerdded allan ac yn meddwl, “Dw i’n hoffi beth dw i’n ei weld”.

“Os yw’n rhoi teimlad da ac yn cael effaith dda ar bethau eraill yn y gymuned, rhaid bod hynny’n beth da. Dw i’n gwybod y gallwn ni wneud hynny.”

Adfer enw da’r Elyrch

Er ei fod yn gymharol ddi-brofiad, mae Steve Cooper eisoes wedi cael y profiad o weithio gyda rhai o fawrion y byd pêl-droed yn Academi Lerpwl, gan gynnwys Kenny Dalglish a Brendan Rodgers.

Ond mae’n dweud ei fod e’n canolbwyntio ar Abertawe’n unig erbyn hyn, ac ar adfer enw da’r Elyrch am chwarae dull deniadol o bêl-droed.

“Dw i wedi gwylio llawer o gemau Abertawe a dw i’n dueddol o wylio gemau pêl-droed mewn tawelwch.

“Ond pan wnes i wylio [gemau Abertawe], wnes i gadw’r sain er mwyn cael ymdeimlad o sut roedd y cefnogwyr yn teimlo, ac ro’n i’n cael y teimlad eu bod nhw’r tu ôl i’r tîm.

“Dw i’n gwybod beth maen nhw am ei weld, a byddan nhw’n well fyth eleni. Os ydych chi am chwarae fel hyn, rhaid i chi gredu, ac mi ydw i’n credu.”

Barod am y swydf

Hon yw ei swydd gyntaf yn rheolwr ar un o glybiau’r Gynghrair Bêl-droed, ac yntau wedi bod yn hyfforddwr yn Academi Wrecsam a Lerpwl, ac yna ar dimau dan 16 a dan 17 oed Lloegr.

Yn chwaraewr, fe chwaraeodd e’n amddiffynnwr gyda chlybiau Wrecsam, Y Seintiau Newydd, Y Rhyl, Bangor a Phorthmadog.

Ond mae’n dweud ei fod e’n barod i gamu i’r lefel nesaf yn ei yrfa.

“Pryd bynnag y caiff rheolwr neu brif hyfforddwr ei benodi, y cwestiwn amlwg o’m rhan i oedd mai dyma fy swydd uwch gyntaf.

“Fyddwn i ddim yn rhoi fy hun yn y sefyllfa yma pe na bawn i’n barod.

“Fi oedd y person cyntaf i ofyn a oeddwn i’n barod i weithio ar y lefel uwch. Ro’n i’n barod ddeg i ddeuddeg o flynyddoedd yn ôl wrth ddechrau paratoi ar gyfer hyn.

“Yr unig faen tramgwydd i fi oedd bod yn barod i weithio gyda chwaraewyr hŷn, ond mi ydw i, yn sicr.”