Mae disgwyl i Gaerdydd gyhoeddi canolwr Cymru a Rotheram, Will Vaulks, fel y chwaraewr cyntaf fydd yn ymuno a nhw yr haf yma.

Gyda ffî wedi’i chytuno arni rhwng y ddau glwb yn barod,mae disgwyl i’r Cymro gyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos nesaf.

Fe fydd cyn clwb y chwaraewr, Falkirk, yn derbyn ffî gwerthu ymlaen fel rhan o’r cytundeb wnaeth weld y llanc 25 oed yn ymuno Rotheram o’r Alban yn 2016.

Ar ôl chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ym mis Mawrth, fe enillodd ei drydydd cap yn gêm ragbrofol Ewro 2020 yn erbyn Croatia yn ddiweddar, ble collwyd 2-1 yn ninas Osijek.

Daeth hi’n syndod i rai bod rheolwr Cymru, Ryan Giggs, wedi rhoi ei gap cyntaf iddo yn y gêm fuddugol yn erbyn Trinidad and Tobago yng Nghae Ras Wrecsam ym mis Mawrth.

Yn dilyn perfformiad addawol yn y gêm honno, fe lwyddodd i sicrhau lle yn y tîm yn gêm ragbrofol Cymru yn erbyn Slofacia yn yr un mis, ble enillwyd 1-0 yng Nghaerdydd.

Ailadeiladu

Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock, yn edrych i ailadeiladu ei garfan ar ôl disgyn o Uwch Gynghrair Lloegr tymor diwethaf.

Yn barod mae’r clwb wedi colli’r canolwr Aron Gunnarsson o Wlad yr Ia sydd wedi ymuno a chlwb Al Arhaby yn Qatar.

Mae Harry Arter a Victor Camarasa hefyd wedi dychwelyd i’w clybiau ar ôl bod ar fenthyg o Bournemouth a Real Betis.