Mae clwb pêl-droed Bangor wedi ennill ei apël yn erbyn codb gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Yn dilyn gwrandawiad arbennig ddoe (dydd Mawrth, Mejefin 18) yn erbyn colli 42 pwynt cyn dechrau’r tymor, mae’r Gymdeithas wedi newid ei meddwl.

Fe ryddhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddatganiad trylwyr yn ymwneud a nifer o gyhuddiadau yn erbyn y clwb ym mis Ebrill.

Byddai colli’r apêl wedi gweld Bangor yn disgyn i gynghrair is am yr ail dymor yn olynol oherwydd problemau oddi ar y cae.

Cyfnod cythryblus

Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus iawn i glwb pêl-droed Bangor ers cael ei daflu allan o Uwch Gynghrair Cymru.

Er iddyn nhw orffen yn ail a sicrhau lle yn Ewrop, fe fethodd y clwb â sicrhau trwydded ddomestig gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Datgelwyd dyledion o £80,000 gan y clwb ym mis Ionawr ar ôl i’w cae, Nantporth, gael ei gau ar ol i’r perchnogion i fethu â thalu bil dŵr a thrydan, ychydig cyn i Stephen Vaughan Jnr ddychwelyd yn gadeirydd.

Ers hynny mae cefnogwyr y clwb wedi symud ymlaen i sefydlu clwb newydd – Bangor 1876 – sydd yn cael gwybod heddiw ym mha gynghrair fyddan nhw’n chwarae.