Collodd tîm pêl-droed Cymru o 2-1 yn erbyn Croatia yng ngemau rhagbrofol Ewro 2020 yn Osijek ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 8), wrth i’r rheolwr Ryan Giggs ddweud bod y gêm wedi llithro o’u gafael.

Tarodd James Lawrence y bêl i’w rwyd ei hun ar ôl 16 munud, cyn i Ivan Perisic ddyblu mantais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail hanner.

Daeth gôl gysur i Gymru gan yr eilydd David Brooks 13 munud cyn diwedd y gêm, ac fe fu bron iddo gipio pwynt yn niwedd yr ornest.

Fe fu cryn gwyno cyn y gêm am y gwres, gyda’r tymheredd yn cyrraedd 30 gradd selsiws, gan orfodi’r chwaraewyr i gael toriad yn y naill hanner a’r llall.

Mae’r canlyniad yn golygu bod rhediad Croatia o ennill pob gêm ragbrofol yn Ewrop ar eu tomen eu hunain ers 1994 yn parhau.

Maen nhw hefyd bellach yn ddi-guro mewn 12 o gemau yn Osijek.

‘Siomedig’

“Dw i’n amlwg yn siomedig o beidio â chael rhywbeth allan o’r gêm ar ôl y cyfleoedd gawson ni,” meddai Ryan Giggs.

“Cawson ni gynifer o gyfleoedd da a wnaethon ni ddim llwyddo i fanteisio arnyn nhw.

“Wnaethon ni ddim chwarae’n dda, gan ildio dwy gôl wael.

“Pan nad ydych chi’n chwarae fel y gallwch chi ac yn dal i greu cyfleodd yn erbyn y tîm da hwn, mae hynny’n destun siom.

“Dywedais i wrth y chwaraewyr, ry’n ni wedi methu cyfle, yn enwedig gyda’r ffordd wnaethon ni orffen y gêm, fe wnaethon ni orffen mor gryf.

“Ni oedd yn edrych fel y tîm mwyaf ffit ar y diwedd. Ni oedd yn edrych fel pe baen ni’n gwthio, ac roedd Croatia yn dal eu gafael.

“Pan ydych chi’n gorffen y gêm fel yna, rhaid i chi deimlo’n siomedig ac mae’n un sydd wedi llithro o’n gafael ni.”