Mae Justin Edinburgh, cyn-reolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi marw’n 49 oed.

Cafodd ei daro’n wael ddechrau’r wythnos ar ôl cael ataliad ar y galon.

Daw ei farwolaeth wythnosau’n unig ar ôl iddo arwain Leyton Orient yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed.

Roedd yn rheolwr ar yr Alltudion rhwng 2011 a 2015, gan eu hachub rhag cwympo o’r Gyngres, gan gyrraedd y gemau ail gyfle y tymor canlynol.

Enillon nhw ddyrchafiad yn 2013, gan ddychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf ers chwarter canrif, a chafodd ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn.

Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Tlws yr FA yn 2012, gan golli o 2-0 yn erbyn Caerefrog.

Gyrfa

Cafodd ei benodi’n rheolwr ar Leyton Orient fis Tachwedd 2017 ar ôl cyfnodau gyda Chasnewydd, Gillingham a Northampton.

Fel chwaraewr, enillodd e Gwpan FA Lloegr a Chwpan y Gynghrair gyda Spurs, ac fe chwaraeodd e hefyd i Portsmouth a Southend.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi iddo gan ei hen glybiau a nifer o’i gyd-chwaraewyr, yn ogystal â’r awdurdodau pêl-droed.