Mae Everton wedi cyhoeddi y bydd Ashley Williams yn gadael Goodison Park ddiwedd y mis.

Bu i’r chwaraewr 34 blwydd sy’n gapten tîm Cymru, ymddangos 73 o weithiau mewn crys Everton yn ystod ei dair blynedd gyda’r clwb.

Mi dreuliodd ei dymor diwethaf ar fenthyg yn Stoke.

“Mae Everton yn medru cadarnhau y bydd Ashley Williams yn gadael pan fydd ei gytundeb presennol yn dod i ben ar ddiwedd y mis,” meddai’r clwb ar eu gwefan swyddogol.

Treuliodd Ashley Williams wyth mlynedd yn chwarae i Abertawe, cyn ymuno gydag Everton.

Mae’n rhan o’r garfan sydd yn Croatia ar gyfer gêm fawr yfory a gêm arall yn Hwngari nos Fawrth. Gemau i ennill lle yn Ewro 2020 yw’r rhain.