Mae asgellwr Cymru, Ryan Hedges, wedi ymuno â chlwb pêl-droed Aberdeen yn yr Alban ar gytundeb tair blynedd.

Fe fydd y llanc 23 oed yn gadael Barnsley ar ôl gwrthod cytundeb gan y clwb o goledd Lloegr, sy’n chwarae ym Mhencampwriaeth Lloegr tymor nesaf ar ôl ennill dyrchafiad.

Er y llwyddiant tymor diwethaf, mae Ryan Hedges wedi dilyn cyngor ei gyfaill o dîm Cymru, Danny Ward, wnaeth chwarae i Aberdeen yn nhymor 2015-16 ar fenthyg o Lerpwl.

Fe ddechreuodd y ddau chwaraewr i Gymru pan enillwyd 1-0 yn erbyn Trinidad & Tobago ym mis Mawrth, pan gafodd Ryan Hedges oedd seren y gêm.

“Rwyf yn eithaf agos gyda Danny Ward a doedd ganddo ddim un gair drwg i ddweud,” dywed Ryan Hedges wrth wefan Aberdeen.

“Dywedodd, os byddai’r cyfle’n dod, fe ddylwn i gymryd hi gyda dwy law.”

Mae Ryan Hedges yn rhan o garfan Ryan Giggs wrth iddynt baratoi am gemau rhagbrofol Ewro 2020 yn erbyn Croatia a Hwngari.

Fe ymunodd a Barnsley yn 2017 ar ôl methu a ennill ei le yn Abertawe.