Ni fydd is-gapten Croatia, Ivan Rakitic, a’u hymosodwr Ante Rebic yn chwarae yn erbyn Cymru ar Fehefin 8 -a hynny oherwydd anaf.

Mae hyn yn newyddion gwych i Ryan Giggs a’i garfan, sy’n wynebu Croatia yng ngemau rhagbrobol Ewro 2020 mewn naw diwrnod yn stadwm Gradski Vrt yn ninas Osijek.

Mae hyfforddwr Croatia, Zlatko Dalic, wedi cadarnhau bod canolwr Barcelona, Ivan Rakitic, gydag anaf i linyn y gar.

Dydi ymosodwr Frankfurt, Ante Rebic, ddim wedi gwella o anaf i’w ben-glin.

Fe fydd Cymru yn wyneb tîm Croatia gwannach oherwydd hyn. Mae’r wlad wedi ennill un gêm a cholli un yn Grŵp E.

Er hynny, fe fydd absenoldeb Aaron Ramsey yn golled i Gymru hefyd, er bod Gareth Bale, Ethan Ampadu a Dan James i gyd wedi’u cynnwys yn y garfan.

Fe enillodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn Slofacia o 1-0 diolch i’r asgellwr Dan James. Ar ôl gem Croatia fe fydd dynion Ryan Giggs yn wynebu Hwngari ar Fehefin 11.