Gallai nifer o chwaraewyr ennill eu capiau cyntaf dros dîm pêl-droed Cymru yng ngemau rhagbrofol Ewro 2020.

Ben Williams, Joe Rodon, James Lawrence, Dylan Levitt a Kiefer Moore yw’r rhai yn y garfan sy’n aros o hyd i ennill eu capiau cyntaf.

Daw Joe Rodon, amddiffynnwr canol Abertawe, i mewn i’r garfan yn dilyn tymor rhwystredig i’r Elyrch ar ôl iddo dorri ei droed ar ddechrau’r flwyddyn.

Hefyd wedi’i gynnwys mae James Lawrence, asgellwr chwith Anderlecht, oedd yn aelod o’r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Denmarc ac Albania ddiwedd y llynedd, ond sy’n aros i ennill ei gap cyntaf.

Mae mam-gu’r chwaraewr 26 oed yn hanu o Sir Benfro.

Mae Daniel James wedi’i enwi yn y garfan, er gwaetha’r newyddion iddo golli ei dad yr wythnos ddiwethaf.

Gallai’r chwaraewr canol cae, Joe Allen, ennill ei hanner canfed cap, ac yntau eisoes wedi ennill 49.

Yn y garfan am y tro cyntaf

Mae Dylan Levitt, chwaraewr canol cae ifanc Manchester United i mewn i’r garfan ar ôl cael ei ddyrchafu i brif garfan ei glwb yn niwedd y tymor.

Fe fu’n chwarae i’r tîm dan 18 am ran fwya’r tymor, cyn cael cyfle yn y tîm dan 23 ar ddechrau’r flwyddyn.

Sgoriodd Kiefer Moore 19 o goliau i Barnsley wrth iddyn nhw ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth, ac fe gafodd ei enwi yn Nhîm y Flwyddyn yr Adran Gyntaf yn sgil ei berfformiadau.

Mae’n gymwys i gynrychioli Cymru oherwydd fod ei daid yn hanu o Lanrug.

Un arall o chwaraewyr mwyaf disglair Barnsley y tymor hwn oedd Ben Williams, yr amddiffynnwr 20 oed sydd newydd lofnodi cytundeb newydd gyda’i glwb.

Mae wedi chwarae dros ei glwb 15 o weithiau yn ystod y tymor.

Mae ei daid yn hanu o Lanelwy.

Y garfan: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Ashley Williams, Neil Taylor, Chris Mepham, Chris Gunter, Connor Roberts, Ben Williams, Ethan Ampadu, Joe Rodon, Tom Lockyer, James Lawrence, Joe Allen, Jonathan Williams, Will Vaulks, David Brooks, Matthew Smith, Dylan Levitt, Daniel James, Gareth Bale, Ben Woodburn, Harry Wilson, Tom Lawrence, Rabbi Matondo, George Thomas, Sam Vokes, Kiefer Moore.