Fe fydd tîm pêl-droed Casnewydd yn codi i’r Adran Gyntaf pe baen nhw’n curo Tranmere yn Wembley yn rownd derfynol y gemau ail gyfle heddiw (dydd Sadwrn, Mai 25).

Fe fydd yn benllanw cyfnod anodd ond cyffrous i dîm Michael Flynn, oedd wedi llwyddo i atal y tîm rhag cwympo allan o’r Gynghrair Bêl-droed yn gyfangwbl pan gafodd ei benodi dros dro ddwy flynedd yn ôl.

Ar y pryd, roedden nhw 11 pwynt islaw’r safleoedd diogel.

Cafodd ei benodi’n barhaol yn dilyn ei ymdrechion, gan orffen yn seithfed yn yr Ail Adran y tymor hwn, a mwynhau rhediad da yng Nghwpan FA ddau dymor yn olynol, gan golli yn y pen draw i Spurs ac yna Manchester City.

“Yr unig beth sydd ar goll hyd yn hyn yw dyrchafiad, a gobeithio y caf fi hwnnw ddydd Sadwrn,” meddai wrth y wasg ar drothwy’r gêm.

“Dywedais i cyn y gêm yn erbyn Tottenham y tymor diwethaf y byddwn i’n ticio blwch arall wrth arwain Casnewydd yn Wembley, felly mae gwneud hynny y tymor canlynol yn dangos cymaint rydyn ni wedi gwella.”

Profiad o blaid yr Alltudion

Dim ond tri aelod o’r garfan sydd heb chwarae yn Wembley yn y gorffennol.

Yn ôl Michael Flynn, bydd y profiad hwnnw’n werthfawr ar gyfer rownd derfynol y gemau ail gyfle.

“Mae gyda ni dîm profiadol iawn yn nhermau hynny, ond dw i’n sicr fod llawer o chwaraewyr Tranmere wedi bod yno hefyd.

“Gall helpu cyn y gêm o ran nerfau ond y peth pwysig yw pwy sy’n ymdopi â’r achlysur orau ar ôl y gic gyntaf.

“Unwaith rydych chi ar y cae, rhaid i’r chwaraewyr sefyll i fyny.”

Y gwrthwynebwyr

Dydy Casnewydd ddim wedi colli yn eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Tranmere, gan ennill unwaith a chael tair gêm gyfartal.

Ond mae James Norwood, prif ymosodwr y Saeson, wedi sgorio 32 o goliau y tymor hwn, gan gael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn yr Ail Adran.

Mae Michael Flynn hefyd wedi enwi Jake Caprice a Connor Jennings fel dau chwaraewr arall i fod yn wyliadwrus ohonyn nhw.

Fe fu tîm Casnewydd yn paratoi yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac maen nhw hefyd wedi bod yn ymarfer yn Brentford ers cyrraedd Llundain.