Mae’r asgellwr Dan James, 21, wedi gadael gwersyll ymarfer Cymru yn Portiwgal yn dilyn marwolaeth ei dad, Kavan.

Mewn datganiad dywed ei glwb, Abertawe: “Mae pawb yn Abertawe yn drist o glywed am farwolaeth sydyn tad Daniel.

“Mae pawb yn y clwb yn anfon eu cydymdeimlad ac mae ein meddyliau gyda Daniel a’i deulu ar yr amse ttist hwn”.

Mae Cymru yn paratoi tuag at gemau rhagbrofol yn erbyn Croatia a Hwngari yn Ewro 2020 ar hyn o bryd.

Fe fydd carfan Ryan Giggs yn gobeithio cael buddugoliaethau yn erbyn Croatia yn Osijek ar Fehefin 8, ac yn erbyn Hwngari ym Mwdapest ar Fehefin 11.

Nid yw’r canolwr Aaron Ramsey a’r amddiffynnwr Ethan Ampadu ar gael oherwydd anafiadau.