Mae Ryan Giggs  wedi dewis 26 chwaraewr ar gyfer carfan Cymru wrth iddo baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2020 yn erbyn Croatia a Hwngari fis nesaf.

Ymhlith yr enwau newydd yn y garfan yw Kieffer Moore, ymosodwr Barnsley a gafodd ei eni yn Torquay ond sydd â chysylltiadau teuluol yn ardal Llanrug ger Caernarfon.

Fe fydd yn ymuno â newydd-ddyfodiad eraill, gan gynnwys Owen Evans, Dylan Levitt a Nathan Broadhead, yn y ganolfan hyfforddi yn Algarve, Portiwgal, rhwng Mai 22 a 28.

Ni fydd Aaron Ramsay ac Ethan Ampadu yn ymuno â nhw oherwydd anafiadau, yn ogystal â Ben Davies a Ben Woodburn a fydd yn chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA.

Ond yn bresennol fydd ymosodwr Real Madrid, Gareth Bale, gan ddod â phrofiad i garfan sy’n cynnwys tipyn o waed ifanc.

Bydd Ryan Giggs yn cyhoeddi’r garfan derfynol, a fydd yn wynebu Croatia ar Fehefin 8 a Hwngari ar Fehefin 11, ddydd Mercher nesaf (Mai 29) yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro.

Y garfan

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Owen Evans (Wigan), Adam Davies (Barnsley), Connor Roberts (Abertawe), Chris Gunter (Reading), Chris Mepham (Bournemouth), James Lawrence (Anderlecht), Ashley Williams (Everton), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Joe Rodon (Abertawe), Dylan Levitt (Manchester United), Ben Williams (Barnsley), Joe Allen (Stoke), Matthew Smith (Manchester City), Will Vaulks (Rotherham), Rabbi Matondo (Schalke), Daniel James (Abertawe), David Brooks (Bournemouth), George Thomas (Caerlŷr), Gareth Bale (Real Madrid), Sam Vokes (Stoke), Kieffer Moore (Barnsley), Nathan Broadhead (Everton), Louis Thompson (Norwich), Terry Taylor (Wolves), Ryan Hedges (Barnsley).