Mae Man Utd yn arwain y ras i arwyddo chwaraewr pêl-droed Cymru ac Abertawe, Dan James, yn ôl adroddiadau.

Y sôn yw bod trafodaethau rhwng y ddau glwb wedi mynd ymhell ac mai dim ond ychydig o fanylion sydd angen eu cwblhau cyn cytuno ar fargen o tua £15m, gyda thaliadau pellach os bydd yn llwyddo

Fe fu sion lu ynghylch ymadawiad yr asgellwr o Stadiwm y Liberty wythnos diwethaf ar ôl perfformiadau trawiadol i’r clwb ac i Gymru.

Bellach , mae’n ymddangos mai Man Utd sydd yw’r ffefrynnau amlwg i arwyddo’r llanc 21 oed, a hynny cyn clybiau eraill sydd wedi eu henwi, gan gynnwys Brighton, Everton a Newcastle.

Tymor a hanner

Mae Dan James wedi gwneud ei farc yn y Bencampwriaeth y tymor hwn wrth sgorio pum gôl chreu 10 mewn 38 gêm, yn aml oherwydd ei gyflymder mawr.

Yn ogystal, fe lwyddodd i dorri mewn i dîm Cymru yn ystod dechrau’r ymgyrch Ewro 2022 wrth chwarae dwy gêm, oedd yn cynnwys gôl yn erbyn Slofacia i dîm Ryan Giggs.

Mae ganddo’r gallu i chwarae ar y ddwy asgell a thrwy’r canol, ond mae son bod Man Utd yn gweld dyfodol iddo ar yr asgell dde yn Old Trafford.

Ymladd i gadw’r rheolwr

Parhau y mae brwydr Abertawe i ddal gafael ar eu rheolwr, Graham Potter, ar ôl dim ond blwyddyn yn y swydd.

Mae perchnogion a chadeirydd y clwb yn trafod gydag e yn y gobaith o’i berswadio i aros.

Hyd yma, maen nhw wedi gwrthod rhoi caniatâd i’r clwb Uwchgynghrair, Brighton, drafod gyda’r rheolwr er mwyn ei ddenu yno.