Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi ffarwelio ag Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth o 2-0 dros Manchester United yn Old Trafford.

Sgoriodd Nathaniel Mendez-Laing ddwywaith i gipio’r triphwynt.

Daeth ei gôl gyntaf o gic o’r smotyn ar ôl 22 munud, ar ôl iddo gael ei lorio gan Diogo Dalot.

Daeth ei ail gôl ar ôl 53 munud.

Ac roedd perfformiad campus gan y golwr Neil Etheridge wrth iddo wneud sawl arbediad i atal y tîm cartref, oedd yn cynnwys chwe aelod o’r academi.

Mae’r canlyniad yn gadael Man U gydag un fuddugoliaeth yn unig yn eu saeth gêm ddiwethaf.

Manchester City yw’r pencampwyr am yr ail dymor yn olynol. Dyma’r tro cyntaf i’r gamp gael ei chyflawni ers 2009.

Roedd gan Lerpwl lygedyn o obaith o gipio’r tlws ac er iddyn nhw guro Wolves o 2-0, roedd buddugoliaeth Manchester City o 4-1 dros Brighton yn ddigon i wrthsefyll yr her.

Caerdydd v Abertawe y tymor nesaf

Bydd Caerdydd ac Abertawe yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf, y tro cyntaf iddyn nhw fod yn yr un adran ers 2014, pan oedden nhw ill dau yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Dydyn nhw ddim wedi herio’i gilydd yn y Bencampwriaeth ers 2011.