Mae Zinedine Zidane, rheolwr tîm pêl-droed Real Madrid, wedi gwrthod trafod dyfodol y Cymro Gareth Bale.

Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd yr ymosodwr yn gwrthod y cyfle i symud o’r Bernabeu yn yr haf, er bod y clwb wedi dweud wrtho nad yw’n rhan o’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae ei ddyfodol yn y fantol ers i’r rheolwr Ffrengig gael ei benodi unwaith eto, gyda’r ddau yn anghydweld ers tro.

Dywedodd asiant y Cymro ganol yr wythnos ei fod e eisiau aros gyda’r clwb ond nad oedd yn credu bod y rheolwr yn dymuno ei weld e’n aros.

Mae ei gytundeb presennol yn dirwyn i ben yn 2022.

“Dw i ddim eisiau ateb hynny oherwydd mai fi yw hyfforddwr Real Madrid, ac mae e jyst yn gwneud ei waith,” meddai Zinedine Zidane wrth y wasg yn Sbaen.