Mae dwy gêm gynderfynol y penwythnos yma i benderfynu pwy fydd yn chwarae mewn ffeinal i gyrraedd cwpan Cynghrair Ewropa’r tymor nesaf.

Heno mae’r Drenewydd yn chwarae Bala (Dydd Gwener, Mai 10) am 7.45yh ym Mharc Latham, cyn i Gaernarfon a Met Caerdydd herio’i gilydd nos fory (Dydd Sadwrn, Mai 11) am 7.30 ar gae’r Oval.

Fe fydd chwarae yn gemau cymhwyso Ewrop ar ddechrau tymor nesaf ar flaen meddyliau’r chwaraewyr wrth iddyn nhw ddod a’r tymor pêl-droed i ben.

O ran y pedwar tîm, mae tabl terfynol tymor 2018-19 Uwch Gynghrair Cymru yn gweld Caernarfon yn bedwerydd, Y Drenewydd yn bumed, y Bala yn chweched a Met Caerdydd yn seithfed.

Y Drenewydd v Y Bala

  • Fe orffennodd gêm ddiwethaf Y Drenewydd v Y Bala yn Uwch Gynghrair Cymru yn 3-2 i hogiau’r Bala, a hynny dim ond bythefnos yn ôl.

pel-droed

  • Enillodd Y Drenewydd 3-1 oddi cartref yn erbyn Y Barri yng ngêm olaf y tymor.

 

  • Enillodd y Bala 1-0 yn erbyn Caernarfon yn eu gêm olaf hwythau.

 

  • 2015 oedd y tro diwethaf i’r Drenewydd gyrraedd Ewrop – fe enillodd y tim yn erbyn Valletta o Falta, cyn cael eu cicio allan gan FC Copenhagen o Ddenmarc.

 

  • Fuodd y Bala yn Ewrop ddechrau’r tymor hwn, pan gollwyd yn erbyn Tre Fiori, San Marino. Fe fyddan nhw’n gobeithio cyrraedd Ewrop am y pumed tymor yn olynol.

 

Caernarfon v Met Caerdydd

  • Fe orffennodd y gêm ddiwethaf rhwng Caernarfon a Met Caerdydd yn 2-0 i’r Cofis yn yr Oval ym mis Tachwedd y llynedd.

 

  • Enillodd Met Caerdydd 3-2 yn erbyn Llanelli yn eu gêm olaf.

 

  • Nid yw Caernarfon na Met Caerdydd erioed wedi chwarae yn Ewrop.

 

  • Er hynny, mae’r myfyrwyr wedi cyrraedd y gemau ail-gyfle am y trydydd tymor yn olynol, ond fe gollwyd yn y ddwy ffeinal flaenorol.