Abertawe 1

Derby 1                                                                   

Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi wrth i Abertawe groesawu Derby i’r Liberty yn eu gêm gartref olaf o’r tymor yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Nid yw’r Elyrch wedi colli gêm gartref yn 2019 a pharhau tan ddiwedd y tymor a wnaeth y rhediad hwnnw wrth i gôl ail hanner Wayne Routledge achub pwynt i’r Cymry wedi i Richard Keogh roi’r ymwelwyr ar y blaen.

Peniodd Keogh ei dîm ar y blaen o gic gornel Harry Wilson hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl wrth i’r ymwelwyr gael y gorau o’r gêm.

Mae newidiadau hanner amser Graham Potter yn nodweddiadol bellach ac roedd Abertawe’n llawer gwell ar ôl troi.

Roeddynt yn haeddu pwynt a dyna’n union a gawsant diolch i gôl Routledge hanner ffordd trwy’r ail hanner, yr asgellwr profiadol yn sgorio i rwyd wag wedi i beniad Oli McBurnie wyro i’w lwybr oddi ar y postyn.

Bu bron i’r Cymro, gipio’r pwyntiau i Derby gydag ergyd dda yn y munudau olaf ond aros yn gyfartal a wnaeth hi.

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i’r nawfed safle yn y tabl ac yno y byddant yn gorffen y tymor os y bydd buddugoliaeth yn Blackburn yng ngêm olaf y tymor ddydd Sadwrn.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton, Byers, Grimes, McKay (Fulton 45’), McBurnie, James (Asoro 84’), Routledge

Gôl: Routledge 66’

Cardiau Melyn: Grimes 16’, van der Hoorn 49’, McBurnie 49’

.

Derby

Tîm: Roos, Bogle, Keogh (Evans 72’), Tomori, Malone, Huddlestone (Marriott 81’), Johnson, Wilson, Mount, Lawrence, Waghorn (Bennett 64’)

Gôl: Keogh 21’

Cardiau Melyn: Wilson 45+2’, Huddlestone 76’, Bogle79’, Bennett 94+4’

.

Torf: 18,434