Mae gyrfa Aaron Ramsey yn Arsenal drosodd yn dilyn newyddion y bydd y Cymro yn methu gweddill y tymor oherwydd anaf i linyn y gar.

Bu raid i’r canolwr ddod oddi ar y cae ar ôl 34 munud yn ystod ail gêm Arsenal yn erbyn Napoli ar Ebrill 18.

Roedd gobaith y byddai Aaron Ramsey, 28, yn ymddangos eto cyn i dymor Uwch Gynghrair Lloegr ddod i ben ond mae angen mwy o amser ar y llanc o Gaerffili i wella.

Mae pryder ymysg Cymry nawr na fydd Aaron Ramsey yn gallu chwarae yn gemau rhagbrofol yr Ewros yn erbyn Croatia a Hwngari ym mis Mehefin.

Ni fuodd yn rhan o dîm Ryan Giggs yn gêm ddiwethaf Cymru yn erbyn Slofacia, pan enillon nh 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ei gêm ddiwethaf i Gymru oedd honno oddi gartref yn Denmarc ym mis Tachwedd, pan gollon nhw 2-1.

Fe fydd Aaron Ramsey yn gadael Arsenal pan ddaw ei gytundeb i ben ar Fehefin 30, pan fydd yn dechrau ei bennod newydd gyda phencampwyr yr Eidal, Juventus.