Casnewydd 2–0 Oldham                                                                  

Mae Casnewydd yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran ar ôl trechu Oldham yn Rodney Parade nos Fawrth.

Symudodd yr Alltudion i’r seithfed safle holl bwysig gydag un gêm yn weddill diolch i goliau ail hanner O’Brien a Willmott.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe agorodd Mark O’Brien y sgorio gyda tharan o ergyd yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Dyblodd Robbie Willmott y fantais ddeuddeg munud o’r diwedd ac roedd y tri phwynt yn ddiogel.

Mae’r tri phwynt hynny’n rhoi tîm Mike Flynn yn seithfed gydag un gêm o’r tymor arferol yn weddill, oddi cartref yn erbyn Morecambe brynhawn Sadwrn.

.

Casnewydd

Tîm: Day, O’Brien, Poole, Demetriou, Willmott, Dolan (Pipe 90+1’), Sheehan, Bennett, Butler, Matt (Azeez 81’), Amond (McKirdy 90+4’)

Goliau: O’Brien 48’, Willmott 79’

.

Oldham

Tîm: de la Paz, Hamer, Clarke, Edmundson (Sylla 55’), Iacovitti, Branger, Maouche, Lang, Missilou, Nepomuceno, Afolayan

Cerdyn Melyn: Afolayan 72’

.

Torf: i ddilyn