Yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn enillwyr Ail Gynghrair Lloegr, Lincoln City, ddydd Sadwrn (Ebrill 27) mae Casnewydd yn croesawu Oldham Athletic heno (nos Fawrth, Ebrill 30) mewn gêm hynod bwysig arall.

Mae Casnewydd yn gwybod y byddai ennill yn erbyn Oldham yn y Rodney Parade yn golygu y bydden nhw’n dringo i’r seithfed safle yn y Gynghrair.

Byddai hynny yn golygu bod y siawns o gael gêm ail-gyfle ac felly’r cyfle i gael dyrchafiad i Gynghrair Cyntaf Lloegr.

Er hynny, bydd sicrhau hynny yn ddibynnol ar ganlyniad ddiwrnod olaf y tymor yn erbyn Morecambe ddydd Sadwrn.

O ran y tîm, fe all y canolwr Joss Labidie a’r ymosodwr Jamille Matt ddychwelyd, ond mae’r Cymro Andrew Crofts a’r golwr Nick Townsend yn parhau i fod yn absennol.

Fe all Oldham Athletic fod heb eu golwr Daniel Iversen oherwydd anaf i’w gefn.