Mae pêl-droediwr rhyngwladol y Weriniaeth Tsiec a chlwb Twrcaidd Aytemiz Alanyaspor, Josef Sural, wedi marw mewn damwain bws.

Bu’r chwaraewr, 28, yn teithio yn ôl gyda’i gyd-chwaraewyr yn dilyn gem wnaeth orffen 1-1 yn erbyn Kayserispor ddoe (Dydd Sul, Ebrill 29).

Ar y bws hefyd roedd cyn-chwaraewr Caerdydd a Tottenham – Steven Caulker, 27, ynghŷd â chyn-chwaraewr Newcastle Papiss Cisse, 33. Mae’n debyg nad yw anafiadau Steven Caulker yn rhai difrifol.

Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty gyda phedwar chwaraewr arall – Djalma Campos, Baiano, Welinton ac Isaac Sackey.

Roedd gan Josef Sural 20 o gapiau i’r Weriniaeth Tsiec, ac fe dderbyniodd ei olaf mewn gem yn erbyn y Wcráin ym mis Hydref y llynedd.

Fe ymunodd gyda Aytemiz Alanyaspor o Slavia Prague ym mis Ionawr.