Mae Mike van der Hoorn, is-gapten Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi llofnodi cytundeb newydd a fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty y tymor nesaf.

Roedd yna opsiwn i ymestyn y cytundeb am dymor arall.

Mae’r amddiffynnwr canol, sydd wedi bod yn arwain y tîm yn absenoldeb Leroy Fer, wedi chwarae ym mhob un o’r 44 o gemau yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Daw’r newyddion am y cytundeb ar ôl i obeithion tila’r Elyrch o gyrraedd y gemau ail gyfle ddod i ben ar ôl gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Hull yn Stadiwm Liberty ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 27).

“Mae’n gryn hwb i ni ac yn un amlwg, dw i’n credu,” meddai Graham Potter, y rheolwr.

“Mae e wedi bod yn wych i ni.

“Mae e wedi datblygu’n arweinydd, fel person ac fel pêl-droediwr.

“Mae e’n un o amddiffynwyr canol gorau’r Bencampwriaeth a’r her iddo fe yw bod yn amddiffynnwr canol yn yr Uwch Gynghrair, a gobeithio y byddwn ni’n ei helpu i gyrraedd y fan honno.

“Mae’n newyddion gwych i ni.”

‘Gwaith i’w wneud’

Ar ôl i’r garfan ifanc greu argraff y tymor hwn, mae’n debygol y bydd Graham Potter a’r clwb yn wynebu colli nifer ohonyn nhw dros yr haf wrth i glybiau ddod amdanyn nhw.

Yn eu plith mae Daniel James, oedd bron â symud i Leeds ym mis Ionawr, a Matt Grimes, sy’n cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau’r clwb y tymor hwn.

Mae Graham Potter yn dweud bod ganddyn nhw i gyd waith i’w wneud dros yr haf.

“Mae gyda ni gnewyllyn criw da, llawer o fois da a chanddyn nhw ysbryd, ac maen nhw’n dysgu ac yn dechrau ar eu taith.

“Dw i’n edrych ymlaen, felly, at geisio siapio’r garfan hon a’i gwella.”