Abertawe 2–2 Hull                                                                             

Daeth gobeithion main Abertawe o gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth i ben wrth iddynt gael gêm gyfartal yn erbyn Hull ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Oli McBurnie ddwy gôl o fantais i’r Elyrch cyn i Hull daro nôl gyda dwy gôl hwyr i gipio pwynt.

Llwyr reolodd Abertawe’r meddiant o’r dechrau’n deg ond bu rhaid iddynt aros tan wyth munud cyn yr egwyl cyn agor y sgorio, McBurnie’n gorffen o groesiad Wayne Routledge yn dilyn symudiad taclus ar y dde.

Dyblodd yr Albanwr y fantais hanner ffordd trwy’r ail hanner, yn gorffen gyda pheniad o groesiad Dan James y tro hwn.

Rhoddod Jarrod Bowen lygedyn o obaith i’r ymwelwyr gyda gôl flêr o dafliad hir cyn i Nouha Dicko sicrhau gêm gyfartal o groesiad Jon Toral dri munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Graham Potter yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl gyda dwy gêm yn weddill, saith pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr nesaf, Derby, sydd yn chweched.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton (McKay 87’), Byers (Grimes 86’), Grimes, Dyer (Fulton 65’), McBurnie, James, Routledge

Goliau: McBurnie 37’, 66’

Cerdyn Melyn: Carter-Vickers 87’

.

Hull

Tîm: Long, Lichaj, McKenzie, Henriksen, de Wijs, Kingsley (Fleming 45’), Batty, Stewart (Toral 74’), Irvine, Bowenm Grosicki (Dicko 62’)

Goliau: Bowen 77’, Dicko 84’

Cardiau Melyn: Henriksen 55’, Stewart 61’, Fleming 71’, Lichaj 90+2’

.

Torf: 18,192