Fe fydd tîm pêl-droed Caerdydd yn teithio i Fulham fory (Dydd Sadwrn, Ebrill 27) gyda chyfle gwirionedd i guro gêm a sicrhau triphwynt gwerthfawr yn y ras i osgoi cwympo o Uwch Gynghrair Lloegr.

Ar hyn o bryd mae’r Adar Gleision yn drydydd o’r gwaelod ac yn y safleoedd syrthio – ond triphwynt yn unig o dan Brighton.

Gyda Fulham eisoes wedi syrthio i’r Bencampwriaeth, mae dadl nad oes ganddyn nhw ddim oll i chwarae amdano yn y gemau sy’n wedill o’r tymor.

Mae gan dîm Neil Warnock dair gêm ar ôl i sicrhau na fyddan nhw’n ymuno â Fulham yn y Bencampwriaeth.

Fel arfer, fe fyddai’r Adar Gleision wedi cyffroi’n meddwl am y daith i Craven Cottage.

Ond gyda’r clwb o Lundain wedi sicrhau dwy fuddugoliaeth yn eu dwy gêm ddiwethaf, a phwysau cynyddol ar ysgwyddau dynion Neil Warnock, bydd meddylfryd gwahanol, nerfus, ymysg y chwaraewyr yfory.

Tra nad yw’n bosib i Gaerdydd, yn fathemategol, ddisgyn i’r Bencampwriaeth  y penwythnos yma, byddai peidio ennill yn eu gadael mewn safle anobeithiol iawn.

“Gwneud yr hyn y gallwn”

“Rwy’n gwybod ei fod yn swnio’n wirion oherwydd byddech chi’n meddwl y byddai mwy o bwysau arnom, ond ers gêm Chelsea, mae’r tensiwn wedi llacio,” meddai Neil Warnock, rheolwr Caerdydd.