Ipswich 0–1 Abertawe                                                                      

Daeth rhediad oddi cartref siomedig Abertawe yn y Bencampwriaeth i ben gyda buddugoliaeth yn erbyn Ipswich ar Potman Road brynhawn Llun.

Nid oedd yr Elyrch wedi ennill ar y ffordd ers diwrnod cyntaf y flwyddyn ond roedd gôl Wayne Routledge yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt yn erbyn y tîm sydd ar waelod y tabl.

Wedi hanner cyntaf di fflach, roedd Abertawe yn llawer gwell wedi’r egwyl ac yn llawn haeddu mynd ar y blaen toc cyn yr awr. Tarodd ergyd Dan James o bellter yn erbyn y postyn cyn gwyro i lwybr Routledge am gôl syml.

Nid oedd gan y tîm cartref fawr i’w gynnig ac roedd yr un gôl yn ddigon i’r ymwelwyr o Gymru.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Graham Potter i’r degfed safle yn y tabl gyda thair gêm yn weddill.

.

Ipswich

Tîm: Gerjen, Bree, Chambers, Nsiala, Elder, Dozzell (Quaner 66’), Chalobah (Bishop 79’), Downes, Edwards, Keane (Jackson 66’), Judge

Cardiau Melyn: Nsiala 29’, Bree 61’

 

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton, Fulton (Fer 84’), Grimes, Routledge (Dyer 70’), Byers, McBurnie, James (Rodon 90+2’)

Gôl: Routledge 57’

Cardiau Melyn: Byers 16’, Fulton 20’, Dyer 90’

.

Torf: 17,427