Halifax 2–1 Wrecsam                                                                        

Daeth gobeithion Wrecsam o orffen yn nhri uchaf Cynghrair Genedlaethol Lloegr i ben wrth iddynt golli yn erbyn Halifax yn y Shay brynhawn Llun.

Bydd yn rhaid i’r Dreigiau ymuno â’r gemau ail gyfle ar y cam cyntaf wedi i gôl hwyr Devante Rodney olygu eu bod yn dychwelyd o Swydd Efrog yn waglaw.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr pan rwydodd Scott Quigley yn erbyn ei gyn glwb ond roedd Wrecsam yn gyfartal toc cyn yr egwyl diolch i gôl Chris Holroyd.

Bu bron i Akil Wright roi’r Cymry ar y blaen yn yr ail hanner ond Halifax a aeth â hi yn y diwedd diolch i gôl Rodney yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Gydag un gêm o’r tymor arferol yn weddill, ni all tîm Bryan Hughes orffen yn y tri uchaf bellach. Golyga hynny y bydd yn rhaid iddynt ennill tair gêm ail gyfle os am ddianc o’r pumed haen o bêl droed Lloegr a dychwelyd i’r Ail Adran.

.

Halifax

Tîm: Johnson, Clarke, Brown, Berrett, Skarz, Maher, King, Gondoh (Preston 70’), Rodney, Kosylo, Quigley (Duku 37’)

Goliau: Quigley 28’, Rodney 90+2’

Cerdyn Melyn: Maher 57’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Jennings, Young, Kennedy, Pearson, Summerfield (Rutherford 67’), Wright, Holroyd (McGlashan 80’), Oswell (Beavon 67’), Grant

Gôl: Holroyd 40’

Cerdyn Melyn: Roberts 29’

.

Torf: 2,577