Mae clwb pêl-droed Caernarfon wedi sicrhau trwydded UEFA heddiw (Dydd Iau, Ebrill 18) yn dilyn cyfarfod oedd yn ystyried apêl y Cofis yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol i beidio â rhoi un iddyn nhw.

Roedd y corff trwyddedu, y First Instance Body, wedi penderfynu peidio rhoi trwydded yn wreiddiol.

Ond yn dilyn ffenestr apelio deg diwrnod, mae’r Cofis wedi sicrhau eu bod yn gymwys i chwarae mewn gêm ail-gyfle Cynghrair Europa.

“Rydan ni’n falch iawn o gyhoeddi bode in apel am drwydded UEFA i dymor 2019/20 wedi bod yn llwyddiannus,” meddai’r clwb ar Twitter.

Mae hyn yn nodi diwedd y broses o drwyddedu clybiau UEFA a Haen 1 ar gyfer y tymor, maen nhw’n edrych fel hyn:

UEFA a Haen 1 (11 clwb)

Aberystwyth

Bala

Y Barri

Met Caerdydd

Caerfyrddin

Caernarfon

Derwyddon Cefn

Cei Connah

Llandudno

Drenewydd

Y Seintiau Newydd

Haen un yn unig (5 clwb)

Airbus

Fflint

Hwlffordd

Penybont

Rhyl

Trwydded UEFA a Haen 1 wedi cael eu gwrthod (1 clwb)

Llanelli

Ceisiadau wedi’u tynnu yn ol (7 clwb)

Bangor

Briton Ferry Llansawel

Bwcle

Cambria a Clydach Vale BGC

Holywell

Porthmadog

Prestatyn