Mae Alan Curtis yn dweud ei fod e wedi gwneud “penderfyniad anodd” i ymddeol o’r byd pêl-droed ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd yn dod yn Llywydd Anrhydeddus Clwb Pêl-droed Abertawe, ar ôl 40 o flynyddoedd o wasanaeth i’r clwb.

Daeth ei benderfyniad ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 16) ar ei ben-blwydd yn 65 oed, wrth i’r clwb geisio cwtogi ar ei staff yn dilyn y gwymp o Uwch Gynghrair Lloegr i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor diwethaf, a diswyddo gwirfoddol yn cael ei gynnig i’r staff.

Yn chwaraewr, roedd yn aelod o’r tîm llwyddiannus a gododd o’r Bedwaredd Adran i’r Adran Gyntaf o dan reolaeth John Toshack.

Sgoriodd e 110 o goliau i gyd mewn mwy na 400 o gemau dros dri chyfnod gwahanol gyda’r clwb, lle bu’n swyddog cymunedol, hyfforddwr y tîm ieuenctid, hyfforddwr y tîm cyntaf, is-reolwr, rheolwr dros dro, llysgennad diwrnod gemau, pennaeth datblygiad ieuenctid a rheolwr chwaraewyr ar fenthyg.

‘Yr amser iawn’

Ac mae e bellach yn dod yn Llywydd Anrhydeddus, rôl sy’n wag ers marwolaeth Gwilym Joseph ddwy flynedd yn ôl.

“Roedd yn benderfyniad anodd ond mewn nifer o ffyrdd, yn benderfyniad hawdd hefyd,” meddai. “Fy mhen-blwydd yn 65 oed oedd yr amser iawn i wneud y cyhoeddiad.

“Gêm i ddynion ifainc yw hi, yn sicr, a dw i’n teimlo mai nawr yw’r amser iawn. Ro’n i’n gwybod pan o’n i’n chwarae pryd oedd yr amser cywir i orffen, a dw i’n teimlo’r un fath nawr.

“Mae fy niwrnodau’n hyfforddi yn dod i ben. Dw i wedi cael amser gwych a nawr, mae’n bryd i’r hyfforddwyr iau gamu i fyny.

“Does gyda fi ddim amheuaeth y bydd pwy bynnag sy’n dod i mewn yn fy lle yn gwneud gwaith gwych mewn clwb pêl-droed gwych.”