Brighton 0–2 Caerdydd                                                                    

Cadwodd Caerdydd eu gobeithion o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn fyw gyda buddugoliaeth holl bywsig yn erbyn Brighton yn yr Amex nos Fawrth.

Dechreuodd yr Adar Gleision y noson bum pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr ond caewyd y bwlch hwnnw i ddau bwynt diolch i goliau Mendez-Liang a Morrison.

Aeth yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, a hynny mewn steil wrth i Nathaniel Mendez-Laing grymanu ergyd berffaith i’r gornel uchaf o ugain llath.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd hi’n ddwy yn gynnar yn yr ail hanner, Sean Morrison yn codi’n uwch na phawb i benio cic rydd Victor Camarasa heibio i Matt Ryan yn y gôl.

Amddiffynnodd yr Adar Gleision yn gyfforddus hefyd a ni ddaeth Brighton yn agos iawn at rwydo tan i Glen Murray benio’n erbyn y postyn yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae tîm Neil Warnock yn aros yn y deunawfed safle er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond dau bwynt sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Brighton, sydd yn yr ail safle ar bymtheg . Bydd yn rhaid i’r Cymry gasglu o leiaf tri phwynt o’u pedair gêm olaf felly, yn erbyn Lerpwl, Fulham, Crystal Palace a Man U.

.

Brighton

Tîm: Ryan, Bruno, Duffy, Dunk, Bernardo, Gros (Andone 54’), Stephens, Propper, Jahanbakhsh (Izquierdo 69’), Murray, March

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Gunnarsson (Bacuna 55’), Ralls, Mendez-Laing (Harris 80’), Camarasa, Hoilett, Niasse (Zohore 85’)

Goliau: Mendez-Laing 22’, Morrison 50’

Cerdyn Melyn: Bennett 79’

.

Torf: 30,224