Mae adroddiadau’n cysylltu Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, â swydd rheolwr Celtic yn yr Alban.

Mae e ymhlith y ffefrynnau i gael y swydd pe na bai Neil Lennon yn cael ei benodi’n barhaol ar ôl derbyn y swydd dros dro.

Mae lle i gredu bod Roberto Martinez, un o gyn-reolwyr eraill Abertawe, hefyd yn cael ei ystyried, ynghyd â Rafa Benitez ac Andre Villas-Boas.

Yn ôl y Sun, mae gan asiantiaid Graham Potter berthynas dda â nifer o bobol ddylanwadol yn Celtic.

Mae’r Sais wedi creu argraff ers iddo gael ei benodi yn Stadiwm Liberty cyn dechrau’r tymor hwn, gan arwain yr Elyrch i ganol y Bencampwriaeth ar ôl trawsnewid y garfan yn dilyn y siom o ostwng o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.