Cambridge 0–3 Casnewydd                                                            

Rhoddodd Casnewydd ddarlith bêl droed yng Nghaergrawnt brynhawn Sadwrn wrth drechu Cambridge United yn gyfforddus yn Stadiwm Abbey.

Amond, Matt a McKirdy a gafodd y goliau wrth i’r Cymry gadw eu gobeithion main o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran yn fyw.

Mae’r Alltudion wedi bod yn ddibynnol iawn ar Padraig Amond a Jamille Matt am eu goliau y tymor hwn a’r ddau flaenwr a gafodd y goliau holl bwysig yn yr hanner cyntaf yn y gêm hon hefyd.

Peniodd Amond yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad Robbie Willmott wedi dim ond pedwar munud cyn i Matt ddyblu’r fantais gyda pheniad arall ddeuddeg munud cyn yr egwyl.

Bu rhaid aros tan funud olaf y gêm am drydedd gôl yr ymwelwyr, Harry McKirdy’n rhwydo eiliadau’n unig ar ôl dod i’r cae fel eilydd.

Mae’r tri phwynt yn rhoi tîm Mike Flynn yn ddeuddegfed yn y tabl, bump pwynt o’r safleoedd ail gyfle gyda phump gêm ar ôl.

.

Cambridge

Tîm: Mitov, Halliday, Taft, Taylor, Dunk, Deegan, Doyle-Hayes, Lambe (Coulson 63’), Brown, Jones (Amoo 31’), Hepburn-Murphy

Cerdyn Melyn: Brown 48’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Poole, O’Brien, Demetriou, Willmott, Dolan (Crofts 61’), Sheehan (McKirdy 90’), Butler, Kennedy (Bennett 75’), Amond, Matt

Goliau: Amond 4’, Matt 34’, McKirdy 90’

Cerdyn Melyn: Demetriou 88’

.

Torf: 4,294