QPR 4–0 Abertawe                                                                            

Mae trafferthion Abertawe ar y ffordd yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn QPR ar Loftus Road brynhawn Sadwrn.

Er eu bod ar rediad gwych ar y Liberty, nid yw’r Elyrch wedi ennill oddi cartref yn y gyngrhair ers Dydd Calan ac maent bellach wedi colli eu saith gêm ddiwethaf y tu allan i Gymru.

Dechreuodd trfferthion Abertawe yn y trydydd munud, Darnell Furlong yn agor y sgorio gyda pheniad postyn agosaf o gic gornel Luke Freeman.

Dyblodd Tomer Hemed y fantais ddau funud yn ddiweddarach, yn rhedeg i’r cwrt cosbi cyn taro ergyd gywir i gornel isaf y rhwyd.

Roedd y gêm fwy neu lai ar ben wedi 17 munud, Hemed yn rhwydo’i ail wedi gwaith da Josh Scowen ar y dde a’r tîm cartref dair gôl ar y blaen gyda mwy na thri chwarter y gêm i ar ôl.

Roedd yr Elyrch fymryn yn well wedi’r egwyl ond y tîm cartref a sgoriodd unig gôl yr ail hanner wrth i Massimo Luongo fanteisio ar ragor o amddiffyn gwael i droi’r fuddugoliaeth yn grasfa.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Graham Potter yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl.

.

QPR

Tîm: Lumley, Rangel (Eze 88′), Furlong, Leistner, Manning, Luongo, Freeman (Wzsolek 69’), Scowen, Cousins, Osayi-Samuel, Hemed (Walker 83′)

Goliau: Furlong 3’, Hemed 5’ 17’, Luongo 54’

Cardiau Melyn: Scowen 11’, Rangel 38’, Osayi-Samuel 44’, Cousins 45+4’

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton (Fulton 45’), Byers (Rodon 65’), Grimes, Dyer (Celina 45’), McBurnie, James, Routledge

Cerdyn Melyn: Rodon 85’

.

Torf: 13,872