Mae rheolwr Arsenal wedi brolio Aaron Ramsey yn dilyn y fuddugoliaeth  tros Napoli neithiwr.

Bydd canolwr Cymru yn gadael y clwb am borfeydd brasach Juventus yn yr Haf, ond mae wedi bod ar dân i’r Arsenal yn ddiweddar.

Fe sgoriodd gôl hyfryd neithiwr yn erbyn Napoli wrth i’r Arsenal gipio buddugoliaeth 2-0 gartref yng nghymal cyntaf rownd yr wyth olaf yng Nghynghrair Ewropa.

Ac mae rheolwr Arsenal yn gwerthfawrogi’r ffaith fod y Cymro 28 oed yn rhoi o’i orau i’r clwb, er ei fod yn gadael ddiwedd y tymor.

“Dengys ei berfformiadau ar hyn o bryd ei fod yn awyddus i wneud rhywbeth pwysig gyda ni,” meddai Unai Emery.

“Rydw i’n credu fod ganddo feddwl mawr o Arsenal… Mae yn canolbwyntio yn llwyr ar Arsenal.”