Casnewydd 0–0 Swindon                                                                

Coaeodd Casnewydd y bwlch ar safleoedd ail gyfle’r Ail Adran gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Swindon ar Rodney Parade nos Fawrth.

Dechreuodd yr Alltudion y noson chwe phwynt y tu ôl i Exeter yn y seithfed safle ond mae’r bwlch hwnnw bellach i lawr i bump wedi iddynt hwythau golli oddi cartref ym Macclesfield.

Wrth gwrs, byddai tri phwynt wedi cau’r bwlch ym mhellach ond Swindon a ddaeth agosaf at ganfod cefn y rhwyd mewn gwirionedd gyda Dion Conroy yn gorfodi arbediadau da gan Joe Day yn yr ail hanner.

Mae tîm Mike Flynn yn aros yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl er gwaethaf y pwynt ond mae pethau’n agos, gyda dim ond pum pwynt yn gwahanu saith tîm gyda chwe gêm yn weddill.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Poole, Demetriou, O’Brien, Butler, Willmott, Labadie (Crofts 45+2’), Sheehan, Keenan (Marsh-Brown 77’), Amond, Matt (Azee 24’)

Cardiau Melyn: Sheehan 29’, Crofts 63’, Demetriou 72’

.

Swindon

Tîm: McCormick, Knoyle, Conroy, Woolenden, Koiki, Rose (Richards 80’), Carroll (McCourt 90+2’), Anderson, Bennett, Woolery (Doughty 71’), Robinson

Cardiau Melyn: Anderson 30’, Carroll 90+2’

.

Torf: 3,314