Casnewydd 0–0 Tranmere                                                              

Gêm gyfartal ddi sgôr a gafwyd ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn wrth i Gasnewydd wynebu Tranmere yn yr Ail Adran.

Mark Ellis a ddaeth agosaf at agor y sgorio i’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf ond peniodd yn erbyn y trawst.

Daeth y gwaith pren i’r adwy i achub Casnewydd yn yr ail hanner hefyd pan darodd Chris Dagnall y postyn.

Fe wnaeth Joss Labadie roi’r bêl yn y rhwyd i Gasnewydd yn y munudau olaf ond cafodd ei ymdrech ei gwrthod oherwydd camsefyll.

Mae’r pwynt yn gadael tîm Mike Flynn yn drydydd ar ddeg yn y tabl, chwe phwynt o’r safleoedd ail gyfle gyda saith gêm i fynd.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Demetriou, O’Brien, Poole, Willmott (Amond 83’), Labadie, Sheehan, Butler, Marsh-Brown (Azeez 62’), Matt, Kennedy (Dolan 69’)

Cardiau Melyn: Labadie 6’, Butler 32’, Poole 64’

 

.

Tranmere

Tîm: Davies, Caprice, Monthe, Ellis, Ridehalgh, Perkins, Banks, Morris, Jennings, Smith (Dagnall 58’), Norwood

Cardiau Melyn: Norwood 55’ Banks 67’

.

Torf: 3,170