Abertawe 3–0 Brentford                                                                 

Enillodd Abertawe am y tro cyntaf mewn pedair gêm yn y Bencampwriaeth nos Fawrth wrth groesawu Brentford i’r Liberty.

Nathan Dyer (2) a Daniel James a sgoriodd y goliau mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Aeth Abertawe ar y blaen wedi llai na munud, James yn ennill y meddiant a Dyer yn rhwydo wedi i James gael ei lorio ar ochr y cwrt cosbi.

Bu bron i James ddyblu’r fantais pan grymanodd ergyd yn erbyn y trawst ond roedd yna ail gôl i’r tîm cartref cyn yr egwyl. Dyer a oedd y sgoriwr unwaith eto, yn gorffen yn daclus wedi pêl hir gywir gan ei gôl-geidwad, Kristoffer Nordfeldt.

Roedd y tri phwynt yn ddiogel i’r Elyrch ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg. Ar ôl creu un a tharo’r trawst, cyfle James a oedd hi i rwydo wedi i ergyd Connor Roberts daro’r postyn a gwyro i’w lwybr.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Graham Potter yn y pedwerydd safle ar ddeg, ddeg pwynt o’r safleoedd ail gyfle gydag wyth gêm i fynd.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Grimes, Naughton, Fulton, Byers, Dyer (Baker-Richardson 71’), Celina (McBurnie 71’), James (Carter-Vickers 82’), Routledge

Goliau: Dyer 1’, 34’, James 78’

 

.

Brentford

Tîm: Daniels, Konsa, Jeanvier, Bech Sorensen, Dalsgaard, Mokotjo (Da Silva 72’), Sawyers, Odubajo, Canos (Marcondes 60’), Benrahma (Watkins 60’), Maupay

Cardiau Melyn: Daniels 1’,  Maupay 43’, Jeanvier 45+3’,  Dalsgaard 77’