Yeovil 1–3 Casnewydd                                                                     

Ennill fu hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Huish Park i herio Yeovil yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Daeth y goliau i gyd yn yr ail hanner wrth i’r ymwelwyr o dde ddwyrain Cymru ennill o dair i un wedi’r daith fer i Wlad yr Haf.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe agorodd Robbie Willmott y sgorio toc wedi’r awr gyda pheniad o groesiad Ben Kennedy.

Kennedy ei hun a ddyblodd y fantais bedwar munud yn ddiweddarach gydag ergyd gywir o bellter.

Rhoddodd Tom James lygedyn o obaith i’r tîm cartref wedi hynny ond sicrhaodd Casnewydd y tri phwynt gyda gôl Keanu Marsh-Brown yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn rhoi tîm Mike Flynn yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl gydag wyth gêm yn weddill.

.

Yeovil

Tîm: Baxter, Grant, Mugabi, Wrren, Ojo, D’Almedia (Duffus 70’), James, Worthington, Rogers (Abrahams 66’), Fisher (Zoko 89’), Dobre

Gôl: James 73’

Cardiau Melyn: D’Almedia 26’, Fisher 51’, Grant 54’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Demetriou, O’Brien, Poole, Willmott, Labadie (Dolan 72’), Sheehan, Butler, McKirdy (Marsh-Brown 60’), Matt (Azeez 86’), Kennedy

Goliau: Willmott 62’, Kennedy 66’, Marsh-Brown 90+1’

Cardiau Melyn: Kennedy 37’, McKirdy 56’

.

Torf: 3,983